Rydym ni’n helpu busnesau i roi eu strategaethau cyfrifoldeb corfforaethol ar waith trwy eu cysylltu â chymunedau a’u helpu i gynnwys gwerth cymdeithasol yn eu gwasanaethau. 

Rydym ni wedi gweithio mewn partneriaeth â busnesau i’w galluogi i wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad ers mwy na deng mlynedd ar hugain. O bartneriaeth genedlaethol fawr i ddigwyddiadau gwirfoddoli unigol i gyflogeion, rydym ni’n gweithio mewn modd hyblyg gyda busnesau i ddeall eu hanghenion. 

Drwy gydweithio gallwn helpu’ch busnes i gael effaith fawr y bydd eich cydweithwyr a’ch cwsmeriaid yn falch ohoni. Ydych chi’n barod i newid lleoedd a newid bywydau?

Ein cryfderau

  • Gweithredu lleol, cwmpas cenedlaethol: Gyda phrosiectau ledled y wlad, rydym ni’n unigryw oherwydd gallwn gyfuno gwybodaeth leol gyda gallu i reoli perthnasoedd a chofnodi effaith ar lefel genedlaethol.
  • Hanes o lwyddo: Rydym ni wedi gweithio gyda brandiau mawr fel Tesco, Barclays, M&S, KPMG, Britvic a Cadbury ac rydym wedi arfer â chynllunio rhaglenni o gwmpas anghenion gwahanol fusnesau.
  • Codi pontydd: Rydym yn gweithredu fel rhyngwyneb rhwng y bwrdd a’r grŵp cymunedol, gan bontio’r bwlch rhwng anghenion y byd corfforaethol ac anghenion y gymdogaeth.
  • Effaith go iawn: Rydym ni wedi helpu busnesau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol
Gwirfoddoli gan gyflogeion

Gwirfoddoli gan gyflogeion

Ydych chi’n chwilio am ffordd i feithrin sgiliau’ch gweithlu a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a sylweddol i gymunedau ar yr un pryd? Mae ein cyfleoedd i wirfoddoli ymhell ar y blaen i ymarferion adeiladu tîm arferol. Mae prosiectau cymunedol mewn bywyd go iawn yn darparu’r her berffaith i dimau a hefyd yn creu cysylltiadau hirdymor gan helpu pobl a lleoedd i gael budd o sgiliau’ch cyflogeion.

Gwerth cymdeithasol

Gwerth cymdeithasol

Mae angen i fusnesau feddwl y tu hwnt i werth i’r rhanddeiliaid a darparu gwerth cymdeithasol hefyd, yn enwedig os ydyn nhw’n gwneud cais am gontractau sector cyhoeddus. Mae dinasyddion corfforaethol da yn sicrhau bod eu gwasanaethau o fudd i’r cymunedau lleol maen nhw’n gweithio ynddynt.

Rhaglenni Partneriaethol

Rhaglenni Partneriaethol

To be addedRydym ni’n partneru gyda busnesau i’w helpu i ddefnyddio eu cryfderau unigryw er mwyn chwarae rhan gadarnhaol mewn cymunedau. Gallai hynny fod trwy harneisio sgiliau’ch staff neu ddefnyddio’ch brand i godi proffil prosiectau cymunedol gwych. Ein cam cyntaf yw eistedd i lawr gyda chi i gynllunio a datblygu partneriaeth wedi’i theilwra sy’n diwallu’ch anghenion chi – ac yn codi cyffro ynoch chi am yr effaith bosibl!