Mae Creu yn y Coed yn gwrs dysgu am ddim i rieni a phlant, a gynhelir dros 8 sesiwn awr a hanner o hyd mewn cymunedau lleol.

Cynigir gweithgareddau amrywiol bob wythnos, gan gynnwys helfa drychfilod, crefftau naturiol, gemau, adeiladu cuddfan a mwy! Mae’r holl weithgareddau yn addas i blant cyn-ysgol a phlant Cyfnod Allweddol 1, gan roi cyfle i rieni a phlant ddysgu a chwarae yn yr awyr agored.

Sesiynau yn cynnwys archwilio bywyd gwyllt, bod yn greadigol ym myd natur a gweithgaredd egnïol yn gysylltiedig â rhai o’n llyfrau plant mwyaf poblogaidd!

I gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech i ni ddarparu’r sesiynau ar gyfer grŵp, cysylltwch â ni: e-bost: training@groundworknorthwales.org.uk