Mae ein rhaglenni cymorth â sgiliau bywyd a chyflogaeth yn helpu miloedd o bobl i fagu hyder, gwella eu cyflogadwyedd, rhoi hwb i’w llesiant, cymryd mwy o ran yn eu cymuned a chymryd camau newydd hanfodol at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Rydym ni’n datblygu mentrau lleol wedi’u teilwra gyda chymdeithasau tai, cyflogwyr mawr, ysgolion a cholegau ac rydym ni hefyd yn rhedeg rhaglenni mawr ar ran llywodraeth leol a chenedlaethol. Mae gennym hanes da o lwyddo wrth weithio yn y mannau hynny lle mae angen cymorth ychwanegol, ac o fynd yr ail filltir wrth ysbrydoli pobl i feddwl mewn ffordd wahanol am eu dyfodol.

Mae ein cryfderau’n cynnwys y canlynol: 

Canolbwyntio ar bobl: Mae ein gwerthoedd fel elusen gymunedol yn golygu ein bod yn darparu amgylchedd diogel, cyfeillgar a chefnogol i bawb. Rydym ni’n defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd wedi’i seilio ar ‘hyfforddi a gofalu’.

Cysylltiadau â chymdogaethau: Rydym ni mewn sefyllfa ddelfrydol i gyrraedd pobl mae arnyn nhw angen cymorth trwy ein rhwydweithiau o bartneriaid lleol a chysylltiadau â chyflogwyr lleol 

Creu swyddi: Rydym ni’n darparu profiad gwaith ac yn creu swyddi yn ein rhaglenni cymunedol, er enghraifft trwy ‘dimau gwyrdd’ sy’n gwella amgylcheddau lleol neu fentrau cymdeithasol sy’n ychwanegu gwerth i’r economi leol.

Profiad byw: Rydym ni’n cyflogi pobl sydd wedi wynebu eu heriau eu hunain fel arweinwyr, i’n helpu i gynllunio a gweithredu rhaglenni targededig ar gyfer anghenion pobl sy’n wynebu rhwystrau penodol fel pobl sy’n gadael gofal, ffoaduriaid neu bobl â hanes o droseddu.

Cyngor a chymorth o ran cyflogaeth

Cyngor a chymorth o ran cyflogaeth

Rydym ni’n darparu cyngor a chymorth o ran cyflogaeth i filoedd o bobl pob blwyddyn. Mae ein gwaith yn amrywio o fentrau lleol bach sy’n gweithio gyda grwpiau targededig i raglenni mawr o gymorth o ran cyflogaeth.

Cyrsiau Hyfforddiant a Phrofiad Gwaith

Cyrsiau Hyfforddiant a Phrofiad Gwaith

Rydym ni’n darparu cyrsiau byr, hyfforddeiaethau a chyfleoedd profiad gwaith sy’n darparu llwybr at gyflogaeth ac yn helpu i sicrhau bod gan bobl y sgiliau mae eu hangen i gyd-fynd â chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg yn y gweithlu.

Rhaglenni arbenigol

Rydym ni wedi datblygu dulliau wedi’u teilwra o weithio gyda grwpiau sy’n wynebu heriau penodol fel pobl â chollfarnau troseddol, ffoaduriaid, pobl ag anableddau a phobl sy’n gadael gofal.