Mae’r pyllau plwm yn cynnig cipolwg diddorol ar orffennol diwydiannol ardal brydferth Dyffryn Clywedog a gall ymwelwyr grwydro’r parc gwledig i weld olion yr ardaloedd prosesu plwm o’r 18fed a’r 19eg ganrif, tŷ’r injan drawst sydd wedi’i adfer, yr injan weindio a’r boilerdai. Mae canolfan ymwelwyr yma hefyd sy’n adrodd hanes y safle yn ogystal â pharc gwledig 53 acer sy’n cynnwys glaswelltir, ardaloedd coediog a safleoedd archaeolegol.

Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) a thrwy weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam rydym wedi derbyn grant i ddatblygu a rhoi cynnig ar ffyrdd cynaliadwy o reoli Canolfan Ymwelwyr Pyllau Plwm y Mwynglawdd er mwyn ei hagor i’r cyhoedd drwy’r flwyddyn.

Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl ddweud beth fydden nhw’n hoffi ei weld ar y safle yn y dyfodol a sut gellir darparu hyn yn gynaliadwy.

Parc Gwledig y Mwynglawdd, LL11 3DU gael rhagor o wybodaeth am Byllau Plwm a Pharc Gwledig y Mwynglawdd, cysylltwch â:
T| 01978 757524 E| info@groundworknorthwales.org.uk