Mae’r prosiect wedi bod ar waith ers mis Tachwedd 2017 a chyflawnwyd llawer iawn ers hynny:

  •   Sefydlwyd grŵp llywio cymunedol yn cynnwys mudiadau a thrigolion lleol.
  • Mae grŵp gwirfoddol Pencampwyr Ein Gardd Gefn yn cyfarfod yn wythnosol ac wedi cyfrannu dros 2500 awr o waith gwirfoddol hyd yma.
  • Mae gwrifoddolwyr ar draws y prosiect wedi casglu dros 500 bag o sbwriel yn barod.
  • Mae 5 Ysgol Leol wedi bod yn archwilio a gwella mannau gwyrdd.
  •  Mae 6 man gwyrdd lleol wedi cael eu gwella drwy reoli’r coetir, gwella mynediad a chynnal digwyddiadau casglu sbwriel.
  • Mae’r prosiect wedi gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau lleol i gynnal digwyddiad Glanhau’r Cei, gan lanhau 9 man gwyrdd lleol.
  • Mae 77 o ddigwyddiadau cymunedol ac ymgysylltu wedi cael eu cynnal mewn mannau gwyrdd lleol.
  • Mae 11 taith hanes a bywyd gwyllt wedi cael eu cynnal.
  • Mae aelodau o’r gymuned wedi cyfrannu cynnwys ar gyfer llwybr I-Beacon Cei Connah a fydd yn cael ei lansio yn yr haf 2019.

Sut dechreuodd y prosiect:

Gweithiodd Groundwork Gogledd Cymru yn agos gyda rhanddeiliaid allweddol i lunio bid a oedd yn cynnwys cynnal ymgynghoriad cynhwysfawr gyda’r gymuned i nodi’r pethau oedd yn bwysig i bobl leol ynglŷn â’r mannau agored yn y dref. Cafodd cynifer â phosibl o’r syniadau hyn eu cynnwys yng nghynllun y prosiect. Felly ‘Diolch yn fawr’ i bob un o’r 400 a mwy o bobl wnaeth gymryd rhan.

Ym mis Awst 2017, roedd ein cais am bron i £650,000 ar gyfer prosiect Ein Gardd Gefn yn llwyddiannus. Nod y prosiect yw annog pobl i ymfalchïo mwy yn eu hardaloedd, cryfhau cydlyniad cymunedol, darparu cyfleoedd i bobl o bob oedran i fod yn fwy gweithgar yn yr awyr agored, rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgu a gwirfoddoli a chreu gwell cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.

“Ein Gardd Gefn” yw un o 6 phrosiect yn unig sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru ar gyfer y rhaglen hon, a hynny o blith dros 60 o geisiadau. Os hoffech wybod rhagor am y rhaglen hon a’r cymunedau eraill fydd yn cymryd rhan, ewch i www.createyourspace.wales. Mae rhaglen Creu eich Lle yn cael ei hariannu ar y cyd gan y Gronfa Loteri Fawr ac arian Cyfrifon Segur (daw arian Cyfrifon Segur o gyfrifon banciau a chymdeithasu adeiladu nad ydyn nhw wedi cael eu defnyddio am dros 15 mlynedd). Bydd arian y Cyfrifion Segur yn cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru ar gyfer prosiectau yn y gymuned i fynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau newid hinsawdd.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Richard Aram, Groundwork Gogledd Cymru ar 01978 757524.

Twitter: /OurBackYard_CQ

Facebook: /OurBackYardCQ

Instagram: @ourbackyardcqOur Back Yard