Bydd rhaglen yn datblygu ac yn cyflenwi gwelliannau amgylcheddol lleol er mwyn trawsnewid mannau gwyrdd sydd wedi’u hesgeuluso yn ased cymunedol gwyrdd newydd er budd pawb.

Mae’r rhaglen yn cynnig:

Y Tîm Gwyrdd – rhaglen strwythuredig ffurfiol ar gyfer oedolion 16+ oed i ennil sgiliau a chymwysterau newydd

Cymunedau Gwyrdd – ein rhaglen i wirfoddolwyr sy’n ymgysylltu â phobl ifanc ac yn rhoi cymorth iddynt hyrwyddo’r mannau gwyrdd yn eu hardaloedd

Addysg Werdd – ein rhaglen ddysgu sy’n seiliedig ar y cwricwlwm ar gyfer pobl ifanc, ysgolion a grwpiau.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Lisa Jones neu Richard Aram yn Groundwork Gogledd Cymru: 01978 757 524

lisa.jones@groundworknorthwales.org.uk

richard.aram@groundworknorthwales.org.uk