Mae’r prosiect o fudd arbennig i bobl ifanc sy’n byw’n annibynnol am y tro cyntaf heb fodelau rôl hŷn i’w cynghori. Yn aml, dydyn nhw ddim wedi cael llawer o gymorth i fyw’n annibynnol ac maen nhw’n ei chael yn anodd weithiau i ddeall eu biliau ynni neu ddod o hyd i’r prisiau gorau. Mae llawer ohonyn nhw hefyd yn barod i dderbyn y tariff sy’n dod gyda’u heiddo. Hefyd, mae pobl mewn aelwydydd incwm isel yn gwario mwy o’u hincwm ar filiau tanwydd.

Fel rhan o brosiect Pŵer i Arbed rydyn ni’n cynnal digwyddiadau, yn hyfforddi gwirfoddolwyr i ddod yn bencampwyr ynni cymunedol, yn cynnal gweithdai grŵp ac yn cynnig ymweliadau cartref personol. Bydd hyn yn mynd i’r afael â phroblem tlodi tanwydd ac yn addysgu pobl sut i arbed arian yn awr ac yn y dyfodol.

Bydd y gweithdai yn ymdrin â phynciau fel;

  • Sut i ddod o hyd i’r tariff ynni gorau
  • Sut i ddeall bil ynni
  • Cyngor ar sut i arbed ynni
  • Sut i gael help a chymorth

Ariennir gan Gronfa Sgiliau a Chyfleoedd Nat West
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Jo Woodward ar 01978 757524 jo.woodward@groundworknorthwales.org.uk