GWW R2LMae llawer o’r cymunedau ôl-ddiwydiannol yng Nghymru yn dioddef o effeithiau gwaethaf tlodi ac amddifadedd. Mae Routes 2 Life (R2L) yn gwneud yn hyn a ddywed ei nw – darparu rhaglen addysg a datbygiad sgiliau i oedolion a phobl ifanc sy’n ddifreintiedig ac yn aml yn agored i niwed fel ffordd gadarnhaol ymlaen.

Wedi’I leoli ar safle fferm arddwriaethol Groundwork Cymru ym Mhontllanfraith, Caerffili, mae R2L yn rhoi cyfle i fuddiolwyr o bob oed ddysgu a datblygu amrywiaeth o sgiliau cefn gwlad ymarferol a garddwriaethol gan gynnwys creu gwyrychoedd, strimio, ffensio, garddio, tocio a thyfu ffrwythau a llysiau.

Yma gall cyfranogwyr feithrin sgiliau cymdeithasol, hyder a hunan-barch, cael hyfforddiant achrededig Agored Cymru a gwella eu CV gyda phrofiadau cadarnhaol yn gweithio yn yr awyr agored. Mae R2L, a arennir yn rhannol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, hefyd yn yngysylltu ag ysgolion lleol i ddysgu o’r tir, gan gefnogi cyflwynian y cwricwlwm a hybu ffyrdd gwyrddach o fyw. Mae’r prosiect hefyd yn darparu Hyddorddeidaethau Amgylcheddol Groundwork Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed, darpariaeth o hyd at flywyddyn sy’n cefnogi cyflogadwyedd a sgiliau hanfodol – gan ddarparu basbort I ddyfodol gwell.