Mae pobl ifanc sy’n byw’n annibynnol yn aml yn byw ar incwm isel, ac felly mae ganddynt ddiffyg cydnerthedd. Yn aml, mae eu galluoedd ariannol/sgiliau llythrennedd hefyd yn gyfyngedig ac felly maen nhw’n ei chael yn anodd deall cymhlethdod y farchnad ynni defnyddwyr. Gall ein rhaglen helpu i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn drwy gynnig;
- Sesiynau addysg ‘Gwroniaid Gwastraff’ CA3 yn yr ysgolion, ar gyfer darpar-ddefnyddwyr sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd
- Sesiynau cyngor ‘galw heibio’ gydag un o’n cynghorwyr arbenigol
- Ymweliadau personol i roi cyngor i ddefnyddwyr ifanc sy’n byw’n annibynnol mewn llety preifat ar rent
Bydd y prosiect hwn yn rhoi sgiliau am oes i bawb sy’n cymryd rhan drwy wella eu dealltwriaeth o sut i reoli eu defnydd o ynni a’u costau ynni.
Ariennir drwy Gynllun Gwneud Iawn Gwirfoddol y Diwydiant Ynni
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Jo Woodward ar 01978757524 neu ebostiwch jo.woodward@groundworknorthwales.org.uk