Green TeamsYn Groundwork Cymru rydym yn gweithio tuag at ein gweledigaeth o gymdeithas decach a mwy cynhwysol. Mae mynd i’r afael â’r bwlch rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf a thorri’r cylch difreintedd ac anghyfartaledd yn sail i bopeth a wnawn.

Mae ein profiad ar lawr gwlad yn dweud wrthym fod cynyddu cyflogadwyedd yn hollbwysig i’r weledigaeth honno a bod symud pobl i waith yn cael effaith ddramatig ar iechyd, cyfoeth a lles unigolion, eu cymunedau a Chymru gyfan.

Ein cryfder yw ein sensitifrwydd i anghenion cymdogaethau penodol. Mae Merthyr Tudful yn ardal o’r fath. Yma mae’r Tîm Gwyrdd yn helpu i’w wneud yn lle gwell a gwyrddach yn ogystal â rhoi’r cyfle i aelodau sy’n wirfoddolwyr i ddysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau a gwella rhagolygon cyflogaeth drwy’r rhaglenni hyfforddiant strwythuredig a achredir gan Agored Cymru yr ydym yn eu cynnig.

Mae stori a newidiodd fywyd Jordan Jennings, sy’n 23 oed, yn enghraifft o’r nifer o bobl sydd wedi elwa gan raglenni Tîm Gwyrdd.

Cyn ymuno â’r rhaglen gwirfoddoli 7 wythnos o hyd ym Merthyr, roedd Jordan wedi bod yn ddi-waith a chyn hynny roedd ganddo waith dros dro ac ansicr fel gweithiwr cyffredinol gyda gwahanol adeiladwyr.

O’r cychwyn cyntaf roedd Jordan yn ei elfen yn yr amgylchedd naturiol, yn gweithio ar ystod o weithgareddau megis plannu coed a llwyni, clirio tir a chreu llwybr yn y goedwig. Yn fuan roedd Jordan yn aelod gwerthfawr o’r tîm a dangosodd agwedd aeddfed ac ymarferol. Hefyd dilynodd gwrs ‘Cyflwyniad i Stimiwr Peiriant Petrol’ a’i gwblhau’n llwyddiannus. Canlyniad hyn yw bod Jordan wedi gwneud ceisiadau am swyddi ac wedi ennill cyflogaeth llawn amser gyda Price Fencing and Landscaping yn ei ardal leol lle mae’n gwneud argraff dda ar ei gyflogwr ac yn datblygu ei sgiliau

ymhellach.

“Mae gwirfoddoli gyda Groundwork Cymru wedi fy helpu i symud oddi wrth y criw negyddol yr oeddwn yn arfer bod yn rhan ohono. Drwy weithio gyda’r bobl yn y Tîm Gwyrdd magais yr hyder I geisio am swyddi”.

Jordan Jennings, Gwirfoddolwr gyda Tîm Gwyrdd, Merthyr Tudful