Mae Groundwork Gogledd Cymru yn cydweithio gyda thimau sirol TRAC i leihau nifer y bobl ifanc sy’n fwyaf tebygol o berthyn i’r grŵp hwn yng Ngogledd Cymru, drwy gynnig amrediad o raglenni dysgu pwrpasol a chymwysterau cysylltiedig a fydd yn ategu’r gwasanaethau prif ffrwd yn hytrach na’u dyblygu.

Ar gyfer pwy mae prosiect TRAC?

Mae timau TRAC yn adnabod y bobl ifanc sy’n gymwys ar gyfer ein prosiectau drwy offeryn proffilio dysgwyr a ddefnyddir mewn ysgolion a cholegau. Mae’r offeryn yn defnyddio llinynnau data lluosog fel ymddygiad, cyflawniad, presenoldeb a gwaharddiadau i roi sgôr a fydd yn dweud wrth y timau TRAC a yw’r unigolyn ifanc yn gymwys ar gyfer un o’n prosiectau.

Beth mae Groundwork yn ei gynnig?

Bydd ein tîm profiadol a chynhwysol yn gweithio gyda’r ysgolion a phobl ifanc a gafodd eu hadnabod gan TRAC a gyda mewnbwn y timau TRAC, bydd yn datblygu cynlluniau gwaith pwrpasol i’r bobl ifanc weithio tuag atynt dros gyfnod o sawl wythnos.

Mae cynnwys pob cwrs yn amrywio ac wedi’i gynllunio i annog y bobl ifanc i ystyried gwahanol gyfleoedd y  tu allan i’r ystafell ddosbarth, gan eu gwobrwyo â chymwysterau cysylltiedig. Rydym wedi darparu’r rhaglen yn llwyddiannus i grwpiau. Mae rhai o’r cyrsiau blaenorol wedi cynnwys:

 

  • Cyflwyniad i adeiladu
  • Mentora cerdyn CSCS
  • Gwaith tîm a chyfathrebu
  • Adeiladu gwydnwch
  • Iechyd a lles
  • Hunan-amddiffyn
  • Cynnal a chadw beiciau
  • Ymweliadau gan gyflogwyr
  • Arolygon bywyd gwyllt
  • Sgiliau gwyllt-grefft
  • Gwirfoddoli yn y gymuned

Bydd gan bawb sy’n cymryd rhan eu ffyrdd eu hunain o fesur llwyddiant a chynnydd personol. Trwy’r profiadau dysgu cadarnhaol hyn, ein gobaith yw y gallwn meithrin hyder, sgiliau arwain a datblygu rhinweddau personol a fydd yn eu helpu i ymgysylltu â’r ysgol.

Dyma rai sylwadau gan 3 o’n Dysgwyr o Ysgol Uwchradd Argoed, Sir y Fflint.

Nikita, “Fe wnaethon ni gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau difyr a dw i’n fwy actif rwan. Mae’r cwrs wedi bod yn wych a gwahanol ac dw i’n hoffi’r ffaith fod gen i rywbeth sy’n fy helpu i adael yr ystafell.  ‘If you’re happy and you know it clap your hands ‘clap clap’”

Marisa: “Dw i wir wedi mwynhau rhoi cynnig ar bethau newydd a gwthio fy hun. Dw i wedi dysgu sgiliau newydd defnyddiol iawn a byddwn yn hoffi gwneud y cwrs eto, mae’n grêt”!

Mia: “Fe wnes i roi cynnig ar bethau newydd a dw i’n fwy hyderus a hapus. Dylai pawb fynd ar gwrs TRAC, byddwch yn ei fwynhau, mae’n gyffrous ac fe hoffwn i wneud rhywbeth tebyg eto”.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Jones / Aaron Jones, Rheolwr Addysg, Groundwork Gogledd Cymru ar 01978 757524 lisa.jones@groundworknorthwales.org.uk / aaron.jones@groudnworknorthwales.org.uk

TRAC site visit