Rydym ni’n gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion a’r tu allan iddyn nhw i’w hannog i ddysgu ac i’w helpu i ddatblygu fel pobl ac i gael profiadau sy’n eu hysbrydoli ac y byddan nhw’n eu cofio gweddill eu hoes.
Mae ein prosiectau ieuenctid yn amrywio o ddysgu yn yr awyr agored i glybiau ieuenctid i hyfforddiant a mentora ar gyfer y rheiny mae arnyn nhw angen cymorth ychwanegol. Yr hyn sy’n eu huno yw ein cred y gall pob person ifanc chwarae rhan gadarnhaol yn ei gymuned, bod hyd yn oed y bobl ifanc fwyaf heriol yn haeddu cymorth i ddod o hyd i’w llwybr mewn bywyd, a bod pobl ifanc yn rhan o’r ateb wrth fynd i’r afael â phroblemau fel llygredd plastigau, lleihad bioamrywiaeth a’r argyfwng hinsawdd.
Ein cryfderau
- Defnyddio’r amgylchedd: rydym ni’n arbenigwyr ar ddefnyddio dysgu yn yr awyr agored, gweithredu amgylcheddol ac ymgyrchoedd amgylcheddol fel ffordd o harneisio syniadau ac ymroddiad pobl ifanc.
- Gwrando ar bobl ifanc: rydym ni wedi ymrwymo i gyfranogiad pobl ifanc ac yn sicrhau bod ein prosiectau, rhaglenni ac ymgyrchoedd yn cael eu llywio a’u harwain gan bobl ifanc.
- Gweithredu cymdeithasol: rydym ni’n dod o hyd i ffyrdd ymarferol o helpu pobl ifanc i gael llais cryfach yn eu cymuned leol ac am faterion sy’n effeithio arnyn nhw a’u dyfodol.
- Cynorthwyo athrawon: mae ein prosiectau addysgol yn helpu athrawon i ddod â’r cwricwlwm yn fyw, yn rhoi cymorth ychwanegol i’r disgyblion y mae arnyn nhw ei angen mwyaf, a gall helpu’r rheiny sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant i ail-afael yn eu hastudiaethau neu fynd ymlaen i hyfforddiant neu waith.