Wood2WorkMae’r rhaglen 12 wythnos a achredir gan Agored Cymru, wedi’i lleoli yng ngweithdy coed proffesiynol Groundwork Cymru yn Aberbargoed, Caerffili, yn cefnogi buddiolwyr lleol o wardiau gwledig Caerffili a Blaenau Gwent I ddysgu sgiliau traddodiadol megis crefftio pren, cerfio a gwehyddu helyg. Drwy wneud hyn bydd unigolion yn datblygu’n bersonol a bydd gaddynt y medrau I gyfrannu I ddatblygiad cynaliadwy eu cymunedau gwledig.

Ers ei sefydlu, mae W2W wedi bod yn adnodd gwerthfawr sydd wedi gynorthwyo amrywiaeth eang o gyfranogwyr yn cynnwys y di-waith, pobl unig, y rhai sy’n pryderus, y rhai yn gwella o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol, cyn-filwyr sydd â PTSD, y rheini sydd â heriau ariannol a dysgu a ffoaduriaid. Mewn amgylchedd creadigol gydag adnoddau da, mae wedi ymgysylltu’n gadarnhaol gyd phob un ohonynt, gan gyflawni ar ei gylch gwaith i baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol neu gyfleoedd gwirfoddoli ar raglenni eraill Groundwork.