Mae llawer o ffyrdd y gallwch ein helpu i gyflawni ein gwasanaethau, ein prosiectau a’n rhaglenni – gan newid bywydau pobl yn awr ond hefyd gwneud ein cymunedau’n fwy gwydn at y dyfodol.
Mae Groundwork yn bodoli i helpu cymunedau i ymdopi â newid ac i gydweithio i wella eu bywydau a’u cymdogaethau.
Yr hyn sy’n ein sbarduno yw cydnabod y ffaith bod gan bob cymuned – beth bynnag yw’r heriau maen nhw’n eu hwynebu – gronfeydd mawr o falchder a phobl â’r brwdfrydedd a’r syniadau i wella eu hamgylchiadau a’u hamgylchoedd.
Gallwch ein helpu i harneisio’r balchder hwnnw a datgloi’r brwdfrydedd hwnnw trwy wirfoddoli’ch amser, ein helpu i godi arian hanfodol, rhoi rhodd ariannol neu gefnogi ein hymgyrchoedd.