We Care yn cael dechrau gwych

Bydd y rhaglen yn datblygu ac yn cyflwyno gwelliannau amgylcheddol lleol er mwyn trawsnewid mannau gwyrdd sydd wedi’u hesgeuluso yn asedau cymunedol gwyrdd newydd er budd pawb.

Cafwyd dechreuad gwych i’r prosiect yn Wrecsam gyda digwyddiad casglu sbwriel gwirfoddol yng Ngwarchodfa Natur Stryt Las, Johnstown.  Dywedodd Geraint Hughes, Swyddog Prosiect, “Gwnaethon ni gasglu llawer o fagiau o sbwriel gan lanhau a gwella’r amgylchedd ym Mharc Stryt Las, ardal sy’n gynefin pwysig i’r Fadfall ddŵr gribog. Diolch yn fawr iawn i’r holl wirfoddolwyr am eu cymorth ar y diwrnod. “

Cynhelir sesiynau anffurfiol, cyfeillgar yn yr ardal bob dydd Iau rhwng 1.30 pm a 3.30pm (gallwn godi pobl o ganol y dref os oes angen) ac mae croeso i bawb dreulio amser yn yr awyr agored, bod yn weithgar a chyfarfod pobl newydd.

Mae tîm Gofalwn hefyd yn awyddus i recriwtio pobl nad ydynt yn gweithio ar hyn o bryd i ymuno â rhaglen 12 wythnos y Tîm Gwyrdd. Bydd y rhaglen yn rhedeg am 2 ddiwrnod yr wythnos, ac yn cynnwys un diwrnod o waith yn y gymuned ac un diwrnod yn ennill hyd at 5 o gymwysterau.

Bydd y rhaglen newydd gyffrous hon yn rhedeg am 3 blynedd er mwyn datblygu tîm o wirfoddolwyr tymor hir parhaus, yn ogystal â chynnig gweithdai, sesiynau addysg, digwyddiadau a chyfleoedd gwirfoddoli achlysurol i’r gymuned yn ehangach.

I gael rhagor o wybodaeth am Gofalwn a sut y gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch â Lisa Jones neu Richard Aram yn Groundwork Gogledd Cymru ar 01978 757524 lisa.jones@groundworknorthwales.org.uk richard.aram@groundworknorthwales.org.uk