Rydym ni’n helpu cwmnïau bach a mawr i roi eu strategaethau cyfrifoldeb corfforaethol ar waith trwy eu cysylltu â chymunedau a’u helpu i gynnwys gwerth cymdeithasol yn eu gwasanaethau. 

Rydym ni wedi gweithio mewn partneriaeth â busnesau ym mhob sector i’w helpu i wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad ers mwy na deng mlynedd ar hugain. O bartneriaethau cenedlaethol mawr i ddigwyddiadau gwirfoddoli unigol i gyflogeion, rydym ni’n gweithio mewn modd hyblyg gyda busnesau i ddeall eu hanghenion ac i gynllunio rhaglenni sydd o fudd i’w cyflogeion a’u cwsmeriaid yn ogystal â’r cymunedau maen nhw’n gweithredu ynddynt. 

Gyda phrosiectau ledled y wlad, rydym ni’n unigryw oherwydd gallwn gyfuno gwybodaeth a rhwydweithiau lleol â gallu i reoli perthnasoedd a chofnodi effaith yn genedlaethol. Rydym ni wedi gweithio gyda brandiau adnabyddus fel Tesco, Barclays, M&S, Britvic a Cadbury a gwyddom sut i gynllunio rhaglenni sy’n meithrin gwerth brand ac ar yr un pryd yn sicrhau effaith yn y gymuned.

Drwy gydweithio gallwn eich helpu i ymgysylltu â’ch cydweithwyr a’ch cwsmeriaid mewn ffordd sy’n ennyn balchder yn ogystal ag ymdeimlad o bwrpas. Ydych chi’n barod i newid lleoedd a newid bywydau?

Gallwn eich helpu i wneud y canlynol:

  • Bod yn geffyl blaen o ran yr argyfwng hinsawdd: trwy gefnogi ein mentrau cymunedol lleol byddwch yn grymuso pobl i weithredu ar lawr gwlad ar yr amgylchedd a gall ein cynghorwyr arbenigol ar wastraff ac effeithlonrwydd adnoddau hefyd eich helpu i leihau’ch effaith a symud cam yn nes at yr economi gylchol.
  • Cyflawni cyfrifoldeb corfforaethol: gallwn weithio gyda chi i gydgynllunio partneriaeth cyfrifoldeb corfforaethol sy’n harneisio cryfderau unigryw eich brand a’ch gweithlu i chwarae rhan gadarnhaol yn y cymunedau lle’r ydych chi’n gweithredu.
  • Ysbrydoli’ch cyflogeion: trwy ddiwrnodau gwirfoddoli mewn prosiectau cymunedol go iawn gallwn helpu’ch cydweithwyr i roi rhywbeth yn ôl, hybu eu sgiliau ac adeiladu timau mwy effeithiol. Gallwn gydweithio i gynnal digwyddiadau her i dimau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn mewn cymunedau neu’n meithrin cysylltiadau hirdymor sy’n helpu grwpiau llawr gwlad i gael budd o’ch sgiliau a’ch adnoddau.
  • Creu gwerth cymdeithasol: gallwn eich helpu i feddwl y tu hwnt i werth i gyfranddalwyr a darparu gwerth cymdeithasol hefyd – gan gynllunio’ch gwasanaethau mewn ffordd sy’n cefnogi seilwaith cymunedol, yn hybu cyflogaeth a sgiliau lleol ac yn lleihau effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd gymaint ag sy’n bosibl.

Cysylltu â ni