Mae gan ymyriadau syml a chost effeithiol yn y gymuned y potensial i newid bywydau ac arbed biliynau o bunnoedd i’r GIG pob blwyddyn.
Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth â thimau iechyd cyhoeddus, meddygon teulu, Grwpiau Comisiynu Clinigol, elusennau a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i gyflawni mentrau sy’n creu amgylchiadau gwell ar gyfer iechyd ac yn hybu newid ymddygiad – cynyddu gweithgarwch corfforol, hybu dietau iach a lleihau gorbryder a risg. Mae ein prosiectau a’n gwasanaethau ar gael mwyfwy ar bresgripsiwn cymdeithasol a’u nod yw ‘creu iechyd’ trwy alluogi pobl i gynyddu eu cysylltiad â natur a meithrin eu hyder, eu rheolaeth a’u cysylltiadau yn eu cymuned leol.
Rydym ni hefyd yn gweithio gyda sefydliadau iechyd i wella eu hystadau, gan greu amgylcheddau therapiwtig mewn mannau awyr agored a chynorthwyo â chamau i leihau effaith carbon fel rhoi system rheoli amgylcheddol ar waith.
Gallwn eich helpu i wneud y canlynol:
- Hybu ymddygiadau iach a mynd i’r afael ag arwahaniad: mae ein mentrau cymunedol lleol yn helpu i greu mannau iachach a gwyrddach i fyw ynddyn nhw, yn darparu gweithgareddau cymunedol sy’n helpu pobl i feithrin rhwydweithiau a gwneud dewisiadau iachach ac yn cynorthwyo pobl trwy wirfoddoli ymarferol i hybu llesiant a rheoli cyflyrau iechyd.
- Mynd i’r afael â thlodi tanwydd: mae ein ‘Meddygon Gwyrdd‘ yn helpu pobl agored i niwed i roi hwb i’w hincwm trwy arbed ynni a dŵr, er mwyn iddyn nhw allu byw’n fwy cyfforddus a lleihau eu heffaith amgylcheddol.
- Cynorthwyo pobl i gael gwaith: gwyddom mai bod â gwaith boddhaus yw’r ffactor pwysicaf i gynnal iechyd da a gallwn gyd-greu mentrau sy’n helpu’r rheiny sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i feithrin yr hyder a’r rhwydweithiau mae eu hangen i fynd yn ôl i’r gweithle.
- Trawsnewid tiroedd gofal iechyd: gall ein tirlunwyr profiadol weithio gyda’ch staff, cleifion ac ymwelwyr i ddatblygu amgylcheddau therapiwtig sy’n dod â buddion natur i leoliadau gofal iechyd.
- Troi’ch sefydliad yn wyrdd: gallwn helpu’ch sefydliad i fod yn wyrddach, sicrhau arbedion costau a bod ar y blaen gyda’r duedd at economi carbon isel.