Rydym ni’n helpu cymdeithasau tai a darparwyr cofrestredig eraill i wneud cymdogaethau’n lleoedd mwy diogel, mwy deniadol a mwy bywiog i fyw ynddyn nhw ac ar yr un pryd helpu preswylwyr i wella eu rhagolygon personol a’u gallu i reoli eu harian. Mae hynny’n golygu gweithio gyda’ch tenantiaid i’w helpu i fyw mewn modd mwy fforddiadwy, gan wresogi eu cartrefi am lai o arian; cydweithio i wella eu hamgylchoedd, ac ar yr un pryd dysgu sgiliau byw gwerthfawr fel tyfu bwyd a choginio; a meithrin yr hyder a’r rhwydweithiau i ddianc rhag arwahaniad, gwella eu rhagolygon ar gyfer swyddi a llwyddo yn y gwaith.
Rydym ni’n helpu gyda heriau mwy hirdymor hefyd, gan gynllunio tirweddau sy’n lleihau perygl llifogydd, addasu cartrefi a chymdogaethau i’r newid yn yr hinsawdd a rhoi prawf ar ddulliau newydd o gynorthwyo ag integreiddio cymunedol a gweithredu cymdeithasol seiliedig ar leoedd.
- Gallwn eich helpu i wneud y canlynol:
- Mynd i’r afael â thlodi tanwydd: mae ein ‘Meddygon Gwyrdd’ yn helpu pobl agored i niwed i roi hwb i’w hincwm trwy arbed ynni a dŵr, er mwyn iddyn nhw allu byw’n fwy cyfforddus a lleihau eu heffaith amgylcheddol.
- Diogelu’ch ystadau rhag yr hinsawdd: rydym ni’n arbenigo mewn darparu ymyriadau tirwedd fel systemau draenio trefol cynaliadwy a all leihau perygl llifogydd yn ogystal â gwneud lleoedd yn fwy deniadol i fyw ynddyn nhw.
- Cynorthwyo tenantiaid i gael gwaith: gwyddom pa mor bwysig yw hi i gymdeithasau tai i’w tenantiaid allu talu eu biliau. Gall ein rhaglenni cymorth â sgiliau byw a chymorth cyflogaeth helpu’ch tenantiaid i fagu hyder, gwella eu cyflogadwyedd a chymryd camau newydd hanfodol tuag at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
- Gwella’ch mannau agored a lleihau’ch costau cynnal a chadw: gall ein hamrywiaeth o wasanaethau tirwedd eich helpu i drawsnewid mannau sydd wedi’u hesgeuluso ar eich ystadau, gan weithio gyda’ch tenantiaid i wireddu eu huchelgeisiau, a gall ein Timau Gwyrdd ddarparu gwasanaeth o ansawdd da sydd â gwerth cymdeithasol ychwanegol.
- Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a hybu cyfranogiad pobl ifanc: trwy ddarparu gwaith ieuenctid targededig yn eich cymdogaethau a thrwy roi cychwyn ar brosiectau gweithredu cymdeithasol sy’n dwyn pobl ynghyd ar draws y cenedlaethau.