Rydym ni’n gweithio gydag ysgolion, colegau a darparwyr cwricwlwm amgen i ysbrydoli ac ysgogi dysgwyr o bob oed, trawsnewid amgylcheddau addysgol a datblygu penderfynwyr y dyfodol trwy feithrin gwydnwch a dealltwriaeth well o faterion cymhleth fel y newid yn yr hinsawdd. Gallwn helpu i greu mannau dysgu awyr agored anhygoel, rhoi cymorth ychwanegol i bobl ifanc sy’n cael trafferth i ddod o hyd i’r llwybr gorau mewn bywyd, cynorthwyo athrawon i ddod â natur i’r ystafell ddosbarth a darparu hyfforddiant sgiliau ymarferol i baratoi pobl ar gyfer gwaith, gan arbenigo ar yr economi werdd.

Gallwn eich helpu i wneud y canlynol:

  • Ysbrydoli disgyblion trwy ddysgu yn yr awyr agored: rydym ni’n darparu addysg a hyfforddiant amgylcheddol sy’n ysgogi’r synhwyrau, yn herio pobl ifanc i feddwl yn greadigol ac yn helpu i wella llesiant, ymddygiad a chyrhaeddiad trwy ddysgu trwy brofiad a chysylltiad â natur. Gall ein prosiectau gael eu cyflawni ar diroedd ysgolion, mewn parciau a mannau gwyrdd lleol neu yn ein canolfannau addysg amgylcheddol. 
  • Lleihau presenoldeb ac ymgysylltiad gwael: mae ein hyfforddwyr profiadol yn helpu pobl ifanc i fynd i’r afael â rhwystrau sy’n eu hatal rhag gwneud y mwyaf o’u haddysg, canfod nodau personol neu alwedigaethol a’u harwain tuag at gyfleoedd newydd. 
  • Creu mannau awyr agored anhygoel: gall ein tîm o dirlunwyr weithio gyda’ch cymuned ysgol gyfan i wneud rhywbeth anhygoel gyda’ch man awyr agored, o ystafelloedd dosbarth awyr agored i randiroedd ysgol i barthau Ysgol Goedwig. 
  • Darparu profiadau dysgu amgen: rydym ni’n darparu sesiynau cwricwlwm amgen i bobl ifanc sy’n cael trafferth i ymgysylltu ag addysg brif ffrwd, gan weithio gydag ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae ein prosiectau amgylcheddol ymarferol yn ffordd arbennig o lwyddiannus o ailennyn diddordeb pobl ifanc sydd wedi colli hyder yn eu galluoedd, gan ddarparu ymdeimlad o gyflawniad a chan hybu cymeriad a gwydnwch.
  • Hybu dysgu gydol oes: mae ein hyfforddwyr a goruchwylwyr arbenigol yn helpu dysgwyr o bob oed i gael dyfarniadau a chymwysterau mewn sgiliau galwedigaethol fel garddwriaeth, ailgylchu ac adeiladu, gan ymgorffori sgiliau gweithredol yn y gwaith o gyflawni prosiectau ymarferol a helpu’r rheiny sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol i gael cymorth arbenigol.

Cysylltu â ni