Routes 2 Life

Routes 2 Life

Mae Routes 2 Life (R2L) yn gwneud yn hyn a ddywed ei nw – darparu rhaglen addysg a datbygiad sgiliau i oedolion a phobl ifanc sy’n ddifreintiedig ac yn aml yn agored i niwed fel ffordd gadarnhaol ymlaen.

Timau Gwyrdd

Timau Gwyrdd

Mae ein Timau Gwyrdd yn ymgysylltu â phobl ifanc ac oedolion difreintiedig i ddatblygu gofodau gwyrdd ar gyfer y gymuned tra’n cael profiad gwaith amhrisiadwy a meithrin hunan-barch ar yr un pryd.

Gofal Gwyrdd

Gofal Gwyrdd

Fel rhan o Menter Werdd, mae ein Tîm Gofal Gwyrdd yn darparu gwasanaethau tirweddu sy’n galluogi pawb a phopeth i elwa - y dirwedd, sgiliau, cyflogaeth a gweithgareddau ehangach Groundwork Cymru.

Sgiliau Ynni am Oes

Sgiliau Ynni am Oes

Gweithio gyda defnyddwyr ynni newydd a darpar-ddefnyddwyr Mae ein prosiect Sgiliau Ynni am Oes yn gweithio gyda defnyddwyr ynni newydd a darpar-ddefnyddwyr - pobl ifanc 13 – 25 oed, sydd ar fin gadael yr ysgol, neu sydd newydd ddechrau byw’n annibynnol. Ein prif darged yw myfyrwyr ysgolion Uwchradd yng Nghyfnod Allweddol 3 ac oedolion ifanc mewn addysg neu hyfforddiant sy’n byw’n annibynnol am y tro cyntaf.

Pŵer i Arbed

Pŵer i Arbed

Helpu pobl ifanc i reoli eu biliau ynni Mae ein prosiect Pŵer i Arbed yn cael ei gynnal ar draws Gogledd Cymru ac mae’n helpu pobl ifanc i wella eu gallu ariannol drwy roi gwell dealltwriaeth iddyn nhw o gyllidebu, lleihau biliau, a siopa o gwmpas i ddod o hyd i’r cynigion gorau, gan eu helpu i wneud y mwyaf o’u hincwm, lleihau’r perygl o fynd i ddyled a gwella eu bywydau.

Dewch i ymweld â’r Mwynglawdd

Dewch i ymweld â’r Mwynglawdd

Diolch i nawdd grant y Loteri Genedlaethol byddwn yn ailagor Pyllau Plwm y Mwynglawdd ger Wrecsam fel atyniad cyffrous i ymwelwyr a lleoliad gweithgareddau awyr agor. Digwyddiadau'r Hydref yn dod yn fuan.