Ein cenhadaeth yw helpu busnesau i’w chael yn iawn o ran cydymffurfiaeth, cydnerthedd a chynaliadwyedd. Rydym ni’n helpu busnesau o bob lliw a llun i greu cynllun gweithredu er mwyn dod yn fwy diogel ac yn fwy cynaliadwy.

Trwy weithio gyda’n hymgynghorwyr busnes arbenigol, gallwn helpu’ch busnes i:

  • Arbed arian
  • Lleihau llygredd a gwastraff
  • Aros yn gystadleuol
  • Magu cydnerthedd
  • Cydymffurfio â deddfwriaeth sy’n effeithio ar eich busnes

Mae ein tîm o ymgynghorwyr busnes yn darparu datrysiad llawn i anghenion eich sefydliad o ran cydymffurfiaeth, cydnerthedd a chynaliadwyedd.

Trwy ddewis Groundwork yn ymgynghorydd busnes cynaliadwy ichi, gallwch fod yn sicr y bydd eich busnes yn gweithredu’n ddiogel ac yn effeithlon ac yn ymateb i bwysau hinsawdd a newidiadau yn y gofynion cyfreithiol.

Ein harbenigwyr
Victoria Barlow Amy Coulter  Greville Kelly
Jacob Mason Anna Martin Oleh Smaczylo